Lleoliad:
Drwy Fideo-gynhadledd
Dyddiad: Dydd Gwener, 27 Mawrth 2020
Amser:
13.30 -
14.13
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Siân Gwenllian Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Clerk |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfodydd ar gyfer eu cyhoeddi.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ddydd Mercher nesaf am 2pm, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch argaeledd Gweinidogion. Byddai'r cyfarfod ar ffurf 'Senedd Frys' gyda llai o bresenoldeb yn unol â'r cytundebau rhwng y grwpiau. Cytunwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithiol, trwy gynhadledd fideo, ac y byddai'n cael ei gadw mor fyr â phosibl. I'r perwyl hwn, cytunodd y Trefnydd y byddai'r amser ar gyfer pob datganiad yn cael ei gyfyngu i 30 munud. Byddai unrhyw bleidleisiau yr oedd angen eu cynnal yn bleidleisiau wedi'u pwysoli ac yn ôl rhestr bresenoldeb. Cytunwyd y byddai hwn yn gyfarfod ffurfiol o'r Cynulliad, yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog fel arfer, ac felly'n gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ganfod pa Aelodau fydd yn bresennol cyn gynted â phosibl, fel y gellir cynnal prawf TGCh. Gofynwyd i'r Llywydd gysylltu â'r pedwar Aelod annibynnol ynghylch y cyfarfod.
Gofynnodd Darren Millar i’r Trefnydd amserlennu datganiad gan y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ymateb ei hadran i Covid-19. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai datganiad o’r fath yn y Cyfarfod Llawn nesaf.
Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd y Rheolwyr Busnes i argymell creu Rheol Sefydlog 34 newydd, i ddarparu ar gyfer gweithdrefnau brys yn ymwneud â pharhad busnes yn ystod y sefyllfa bresennol. Cytunodd y Cynulliad i'r Rheol Sefydlog newydd ddydd Mawrth, a gwnaeth y Pwyllgor Busnes y penderfyniadau canlynol yn unol â'r darpariaethau newydd:
Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn a Cworwm:
Mae Rheolau Sefydlog 34.9 a 34.10 yn darparu ar gyfer pleidleisio wedi'i bwysoli yn y Cyfarfod Llawn, a chworwm gostyngedig o 4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai unrhyw bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn barhau ar y sail hon nes bydd hysbysiad pellach.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, lle defnyddir pleidleisio wedi'i bwysoli, y cynhelir y pleidleisiau trwy alw rhestr bresenoldeb, am resymau'n ymwneud ag ymarferoldeb a thryloywder.
Hygyrchedd y Cyfarfod Llawn:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar gyfer cyfarfodydd rhithwir, y dylid llacio'r gofyniad i ddarlledu yn unol â Rheol Sefydlog 34.16. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid sicrhau bod recordiad o'r cyfarfod ar gael trwy sianeli darlledu arferol y Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod, a bod cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi fel arfer.
Cwestiynau Llafar y Cynulliad:
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.18, cytunodd y Pwyllgor Busnes na ddylid trefnu unrhyw Gwestiynau Llafar y Cynulliad nes y rhoddir hysbysiad pellach.
Ystyried Offerynnau Statudol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn cael eu datgymhwyso ac y byddai'r Cynulliad yn ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau perthnasol hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach. Bydd swyddogion yn darparu nodyn ar sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes beidio â gosod amserlen ar gyfer ystyried y rheoliadau hyn.
Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad:
Yng ngoleuni'r cynnydd yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd, mynegodd y Llywydd ei bwriad i arfer disgresiwn o ran y nifer o Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a dderbynnir, yn unol â Rheol Sefydlog 14.4, ac y byddai'n cyfyngu nifer y Cwestiynau Ysgrifenedig i uchafswm o 10 yr wythnos i bob Aelod ar unwaith.